1. What's On in South Wales
  2. Taith Sioe Gerdd Calon - Wales Millennium Centre / Canolfan Mileniwm Cymru

Taith Sioe Gerdd Calon - Wales Millennium Centre / Canolfan Mileniwm Cymru

Dates:
29th Aug 2026 07:00 - 29th Aug 2026 07:00

About Taith Sioe Gerdd Calon - Wales Millennium Centre / Canolfan Mileniwm Cymru

Taith Calon i deulu a ffrindiau. (Unrhyw un dan 18 angen bod gyda oedolyn cyfrifol)

Teithio lawr ar fws moethus Dydd Sadwrn 29/8/2026 a gwylio Sioe 2pm ac yna aros yn y Future Inns, Bae Caerdydd (Modd ychwanegu Brecwast) - yna diwrnod yn Gaerdydd, Dydd Sul a gadael am adref tua 3pm.

Yng Nghaerdydd fis Awst 2026, mi fydd Cwmni Theatr yr Urdd yn llwyfannu Calon; sioe gerdd newydd sbon yn llawn o ganeuon eiconig a ysgrifennwyd gan Caryl Parry Jones dros y degawdau.

Bydd y sioe yn cael ei pherfformio yn Theatr Donald Gordon Canolfan Mileniwm Cymru, yr ail lwyfan fwyaf yn Ewrop, ar 27, 28 a 29 Awst 2026.
Hon fydd sioe fwyaf Cwmni Theatr yr Urdd ar ei newydd wedd, ers ail-lansio yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y Mudiad yn 2022 diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Mi fydd cast o dros 100 o bobl ifanc, rhwng 15 a 25 mlwydd oed ac o bob cwr o Gymru, yn perfformion y sioe gyda band byw. Bydd cyfleoedd hefyd i bobl ifanc weithio ar bob elfen or gwaith llwyfan, yn cynnwys gwaith technegol, cynllunio a gwisgoedd. Caiff y bobl ifanc eu mentora trwyr broses o greur sioe gan artistiaid a chriw llwyfan proffesiynol yn y maes.

Mi fydd Calon yn llawn dop or caneuon cyfarwydd a hynod boblogaidd ysgrifennwyd gan Caryl dros 40 mlynedd, yn cynnwys yr anthem eiconig, Calon a rhai o ganeuon Eden. Yn cydweithio Caryl ar y sioe fydd ei chefneither ar gantores Non Parry; y Cyfarwyddwr Symud a Choreograffydd Elan Isaac ar actores, cantores a chyflwynwraig Miriam Isaac; sef dwy o ferched Caryl.

Rydym yn falch iawn i fod yn partneriu gyda Theatr Cymru i lwyfannur ddrama gerdd arbennig hon. Fel rhan or bartneriaeth, bydd Rhian Blythe - Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Cymru - yn cyfarwyddo Calon, gan ddod i phrofiad helaeth fel cyfarwyddwr ac actor i'r perfformwyr ifanc.

Performances

Performance Date & TimeTicket PriceTicket Link
Saturday 29 August 7am Standard: £40.00 - £179.00 Book Now
Swipe left or right to view performance info

Stay up to date

Sign up for the South Wales Guide newsletter to receive inspiration in your inbox for days & nights out, offers, competitions, trip planning ideas, and plenty more!

Newsletter subscribe photo